Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 2 Mehefin 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.05 - 10.30 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r
cyfarfod ar Senedd TV
yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Bethan Jenkins Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
||||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Steve George (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau.
2 Deisebau newydd
2.1 P-04-629 Adolygu a gorfodi Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
2.2 P-04-635 James Bond yn y Cynulliad Cenedlaethol
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgîl ymateb y Llywydd ei bod yn amhosibl gweithredu'r hyn y mae'r ddeiseb yn gofyn.
2.3 P-04-621 Cadw’r Uned Famolaeth dan Arweiniad Ymgynghorwyr yn Ysbyty Glan Clwyd ar Agor
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd, ond i aros tan ganlyniad yr achos cyfreithiol cyn penderfynu beth ymhellach allai wneud ynghylch y ddeiseb.
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1 P-04-546 Magu anifeiliaid dan amodau annaturiol
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am ymateb oddi wrth y deisebydd, ond i gau'r ddeiseb os na cheir ymateb o fewn chwe wythnos.
3.2 P-04-605 Achub Ffordd Goedwig Cwmcarn Rhag Cael ei Chau am Gyfnod Amhenodol neu’n Barhaol
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am ymateb oddi wrth y deisebydd, ond i gau'r ddeiseb os na cheir ymateb o fewn chwe wythnos.
3.3 P-04-579 Adfer cyllid ar gyfer monitro Gwylogod Ynys Sgomer
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am sylwadau'r deisebydd ar ohebiaeth y Gweinidog.
Datganodd Joyce Watson ei bod yn Aelod o'r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt.
3.4 P-04-422 Ffracio
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am sylwadau'r deisebydd ar ohebiaeth y Gweinidog.
3.5 P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:
o bod barn DEFFO yn cael ei ystyried ochr yn ochr â'r ymatebion eraill i'r ymgynghoriad a ddaeth i ben ar 8 Mai;
o bydd DEFFO yn cael eu cynnwys yng ngham nesaf yr ymgynghoriad; a
o barn y Gweinidog ar honiad DEFFO bod anghenion y rhai sydd eisiau neu angen hyfforddiant IAP yn aml heb eu diwallu neu'n anhysbys, am fod IAP weithiau'n ddewis yn hytrach nag angen crys neu angen meddygol.
3.6 P-04-548 Ailgyflwyno dosbarthiadau Cymraeg ym Mhrifysgol
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yn dilyn ymatebion yn nodi nad oes unrhyw ffynhonnell amlwg o gyllid a allai helpu.
3.7 P-04-601 Gwaharddiad Arfaethedig ar Ddefnyddio e-sigaréts Mewn Mannau Cyhoeddus
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am sylwadau gan y deisebydd.
[Yn syth ar ôl y cyfarfod, daeth i'r amlwg bod y deisebydd wedi cyflwyno sylwadau pellach mewn perthynas â'r ddeiseb sawl diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd y sylwadau hyn yn cael eu hystyried gan yr Aelodau yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 16 Mehefin.]
3.8 P-04-600 Deiseb i achub y gwasanaeth meddygon teulu
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod y materion sy'n cael eu codi yn y ddeiseb wedi cael sylw yn Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
3.9 P-04-560 Gwasanaethau Clefyd Llid y Coluddyn yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb ar ôl i'r Gweinidog nodi nad yw o'r farn bod angen ystyried datblygu cynllun cyflawni cenedlaethol ar hyn o bryd.
3.10 P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
3.11 P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog
Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 3.13.
3.12 P-04-466 Argyfwng Meddygol – Atal cyflwyno gwasanaeth iechyd o safon is yng ngogledd Cymru.
Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 3.13.
3.13 P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Man Anafiadau Ysbyty Tywyn
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· ofyn i'r Bwrdd Iechyd am:
o ei sylwadau ar y sylwadau diweddaraf gan y deisebwyr; sut mae cyd-gadeiryddion annibynnol y corff newydd yn bwriadu cydweithio ar faterion
o ei farn bod oriau agor uned mân anafiadau Tywyn yn ymddangos i fod yn anghyson ag amseroedd agor eraill yn yr ardal ac a yw hyn yn gwthio pobl tuag at wasanaethau mewn mannau eraill, fel adrannau damweiniau ac achosion brys neu wasanaethau meddygon teulu
o nodyn o gyfarfod diweddar y grŵp cydweithredol Iechyd yn y Canolbarth
3.14 P-04-523 Diogelu’r Henoed a Phobl sy’n Agored i Niwed mewn Cartrefi Gofal
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Prif Weinidog roi gwybod i'r Pwyllgor pan fyddai cynnydd sylweddol newydd i adrodd arno.
3.15 P-04-501 Gwneud canolfannau dydd ar gyfer pobl hŷn yn ofyniad statudol yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am ei farn ar y sefyllfa bresennol ledled Cymru a sut y mae'n rhagweld y bydd y Ddeddf a'r ail Fil Gwasanaethau Cymdeithasol yn effeithio ar y ddarpariaeth gofal dydd ar gyfer yr henoed.
3.16 P-04-587 Tîm Cymorth pwrpasol ar gyfer dioddefwyr Enseffalomyelitis Myalgig (ME), Syndrom Blinder Cronig a Ffibromyalgia yn ne-ddwyrain Cymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
3.17 P-04-618 Diogelu gwasanaethau bancio mewn cymunedau hawdd eu targedu
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog basio sylwadau'r deisebydd ymlaen at y grŵp Strategaeth Cynhwysiant Ariannol.
3.18 P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am sylwadau'r deisebydd ar ohebiaeth y Gweinidog.
3.19 P-04-613 Dylai Aelodau’r Cynulliad wrthod yr argymhelliad i gynyddu eu cyflogau 18%
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am ymateb oddi wrth y deisebydd ar yr ohebiaeth gan y Bwrdd Taliadau, ond i gau'r ddeiseb os na cheir ymateb o fewn chwe wythnos.
3.20 P-04-565 Adfywio hen reilffyrdd segur at ddibenion hamdden
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am sylwadau'r deisebydd ar yr ohebiaeth gan y Gweinidog a Sustrans.
3.21 P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
3.22 P-04-626 Israddio Ffordd yr A487 drwy Penparcau, Trefechan a chanol tref Aberystwyth
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn a oes amserlen gadarnach ar gyfer ystyried israddio statws cefnffordd yr A487 yn Aberystwyth.
3.23 P-04-607 Galw ar Lywodraeth Cymru i brynu Garth Celyn
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
Datganodd Bethan Jenkins AC fuddiant yn y ddeiseb.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5 Adroddiadau Drafft y Pwyllgor
Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiadau drafft, yn amodol ar fân newidiadau.